Downham Market

 

Town Sign, Downham Market

 

 

Tref farchand fechan yng Ngorllewin Norfolk yw Downham Market, 90 milltir i’r gogledd ddwyrain o Lundain mewn ardal wledig sy’n rhan o East Anglia, yn ffinio â’r Fens.

 

Mae prif ffordd yr A10 yn ymlwybro i’r gogledd o Gaergrawnt yn mynd drwy ddinas Ely, tua 16 milltir i’r de o Downham Market, cyn cyrraedd Kings Lynn, tua 10 milltir i’r gogledd o’r dre, a Royal Sandringham, cartref gwledig y Frenhines dim ond rhyw 5 milltir arall i’r gogledd.

 

Mae maes awyr cenedlaethol Stansted rhyw 50 milltir i’r de, a mae cysylltiadau ffordd a rheilffordd da i Downham Market. Mae maes awyr Norwich tua 40 milltir i’r dwyrain, a maes awyr Caergrawnt 30 milltir i’r de.

 

Mae gwasanaeth trên trydan cyflym ac effeithiol ar gael ar y linell Llundain i Kings Lynn. Mae Downham Market yn le canolog i ymweld â’r lleoedd diddorol yn yr ardal hon o Orllewin Norfolk.

 

Mae Downham Market yn cynnig dewis da o westai a thai aros i ymwelwyr.

 

 

 

image